Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
23 Mai 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4986
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (atebwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):
David Melding (Canol De Cymru): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân?
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad ar Wythnos Weithredu Dementia.
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad i gofio’r Ymosodiad yn Arena Manceinion.
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad ar sefydliad DPJ, sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl mewn ardaloedd gwledig.
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Dechreuodd yr eitem am 16.30
NDM6727 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.
2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.33
NDM6728 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol, 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Mai 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM6729 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Dechrau'n Deg: Allgymorth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Mai 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.11
NDM6726 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae angen eich cefnogaeth ar dadau hefyd: sicrhau bod tadau yn parhau i gael llais a chefnogaeth i fod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Mehefin 2018